Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Chwefror 2021
Amser y
cyfarfod: 13.00
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Dadl: Cyfnod 3 Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)
(150 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Senedd ar 19 Ionawr.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Seiliau adfeddiannu
32, 33, 46, 51, 52
2. Cyfnod hysbysu
34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45
3. Contractau safonol a chyfnod penodol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis
9, 53, 54
4. Diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2016
10, 16, 17, 18, 19, 20, 56, 21, 25, 26, 27
5. Cyfyngiadau ar roi hysbysiad
1, 2, 3, 4, 11, 12, 13, 14, 15, 22, 23, 24, 28, 29, 30, 31, 8
6. Tynnu hysbysiad yn ôl
47, 48, 49, 50, 55
7. Newidiadau i daliadau a ganiateir o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019
5, 6, 7
Dogfennau Ategol
Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
(45 munud)
3 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg
(45 munud)
4 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(10 munud)
5 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
6 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
7 Dadl: Cyfnod 3 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
(60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, cafodd y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Y cyfnod cyn etholiad: Canllawiau
15, 17
2. Y broses ar gyfer cynnig gohirio o dan adran 5
3, 16, 4, 6, 7
3. Y diwrnod olaf posibl ar gyfer etholiad
5, 9, 10, 11, 12, 13
4. Diwrnodau ychwanegol ar gyfer pleidleisio
8
5. Gorchmynion a rheolau yngl ŷ n â chynnal etholiadau yn 2021
1, 2
6. Pleidleisio drwy ddirprwy
14
Dogfennau Ategol
Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Rhestr o welliannau wedi’u didoli
8 Dadl: Cyfnod 4 Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
(15 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 23 Chwefror 2021